Crëwr Anfonebau

Platfform: Windows
Pris: 24,99 €




Mac, iPhone, iPad, Android

Mac App Store App Store ar gyfer iPhone ac iPad Mac App Store (fersiwn cwmwl) App Store ar gyfer iPhone ac iPad (fersiwn cwmwl) Google Play ar gyfer Android (newydd: fersiwn 3.1)

Ap Android: anfonebau, dyfynbrisiau, nodiadau danfon a nodiadau atgoffa fel PDF ar eich ffôn – disgrifiad a sgrinluniau.

Sgrinluniau

Creu anfonebau mewn chwinciad

Gyda’r rhaglen “Crëwr Anfonebau”, mae’r frwydr â fformatio undonog yn perthyn i’r gorffennol. Defnyddiwch ein dogfennau sydd eisoes wedi’u fformatio ac ychwanegwch dderbynnydd yr anfoneb a’r eitemau anfoneb yn unig. Ar gyfer pob anfoneb arall, gallwch hyd yn oed ailddefnyddio’r data hyn – sy’n arbed amser go iawn ac yn talu ar ei ganfed!

Creu a throsi dogfennau

Mae ein rhaglen yn darparu nid yn unig anfonebau sydd eisoes wedi’u fformatio, ond hefyd dempledi ar gyfer dyfynbrisiau, cadarnhadau archeb, archebion prynu, llythyrau busnes, memoranda a nodiadau danfon. Crëwch eich dogfen eich hun a’i throi’n anfoneb gydag ychydig o gliciau yn unig. Gellir dyblygu pob dogfen hefyd neu ei defnyddio fel templed.

Rheoli cleientiaid – yn ddiogel ac yn syml

Felly, bydd rheoli eich cleientiaid yn hawdd iawn! Caiff yr holl wybodaeth a roddwyd unwaith ei chadw yn y system, a gellir ei galw’n ôl yn hawdd a’i defnyddio dro ar ôl tro. Gallwch ddefnyddio’r ystod lawn o reoli data awtomataidd ac elwa ar ein safonau diogelwch uchel.

Dechrau hawdd!

Mae ein Rheolwr Gosod yn eich helpu i osod y feddalwedd ac mae ein Dewin yn eich helpu i wneud y gosodiadau diofyn. Nid oes rhaid i bethau digidol fod yn gymhleth bob amser!

Eich “Crëwr Anfonebau”, eich gofynion

Bydd “Crëwr Anfonebau” yn eich cefnogi ym mhob maes bilio. Cadwch sawl cyfeiriad, ymadrodd, dull talu, troedyn ac eitem anfoneb, a dewiswch y cydrannau addas sydd eu hangen arnoch bob tro. Caiff y rhai a ddewisir amlaf eu cadw’n awtomatig fel y safon – felly, rydych yn arbed amser gwerthfawr ac yn parhau i fod yn hyblyg!

Torrwch eich cwys eich hun!

Mae ein rhaglen yn rhoi’r posibilrwydd i chi, hyd yn oed gydag ychydig iawn o wybodaeth html, greu eich templedi anfoneb eich hun a’u hintegreiddio yn y rhaglen. A hyd yn oed heb unrhyw sgiliau cyfrifiadurol, gallwch wireddu eich syniadau eich hun: mae tîm “Crëwr Anfonebau” yn cynnig gwasanaeth am dâl.

Anfon anfonebau

Anfonwch eich anfoneb orffenedig yn uniongyrchol o’r rhaglen drwy e-bost.

Mewnforio anfonebau

Mae ein swyddogaeth fewnforio yn caniatáu i chi integreiddio anfonebau sy’n bodoli eisoes o Excel yn “Crëwr Anfonebau” ac uno holl anfonebau tabl yn un ddogfen pdf gydag ychydig o gliciau yn unig.

Cadwch lygad ar eich cyllid

Dim rhagor o ofn y swyddfa dreth! Bydd “Crëwr Anfonebau” yn eich cynorthwyo i gadw cyfrifon yn ddiogel ac yn gywir.

Gwasanaeth diweddaru ar-lein

Mae’r “Crëwr Anfonebau” a osodwyd gennych yn gwirio’n rheolaidd am ddiweddariadau gan invoice-create.com. Os ydynt ar gael, gellir eu gosod yn hawdd yn awtomatig neu â llaw. Felly, byddwch chi a’ch meddalwedd bob amser yn gyfredol.

Cyswllt ac adborth

Gyda “Crëwr Anfonebau” rydym am gymryd peth o’ch gwaith dyddiol oddi arnoch. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu broblemau gyda’r feddalwedd, gallwch ddod o hyd i atebion yn ein fforwm. Crëwyd y fforwm hwn ar gyfer ein defnyddwyr ac mae’n cynnwys llawer o drafodaethau diddorol, a fydd yn eich helpu i ddefnyddio ein cynnyrch yn y dyfodol.

Yn bennaf oll: diogelwch eich data

Diogelwch eich data yw ein blaenoriaeth uchaf. Caiff yr holl ddata eu storio’n lleol ar gyfryngau’r defnyddiwr, heb unrhyw fodd i drydydd partïon gael mynediad atynt. Hefyd, mae ein fersiwn ar-lein o’r rhaglen yn hollol ddiogel: caiff data eu hamgryptio yn unol â’r safonau ansawdd uchaf.